Clasur o’r dwyrain pell. Mae yna gant a mil o ffyrdd i baratoi’r bwyd stryd enwog yma ac felly dyma rysáit Llawn Daioni!
I fwydo 2.
Cynhwysion;
2 frest cyw iâr
2 lwy de turmerig
Llwy de o bowdr coriandr
Llwy de o bupur du
Fish sauce
Soy sauce
Llwy fwrdd o siwgr palmwydd / siwgr brown
2 ewyn garlleg wedi’u malu
Bodyn o sinsir ffres wedi’i gratio’n fân
Leim – sudd a zest
2 lwy fwrdd o Peanut butter
Llwy fwrdd hoisin
Saws tsili
Mintys
Dail coriander
Berwr (cress)
Ciwcymbr
Dull;
- Paratowch y marinad. Mewn powlen fawr, cymysgwch y tyrmerig, powdr coriander, y garlleg, llwy fwrdd yr un o’r fish sauce a’r soy sauce, hanner y sinsir (tua llwy fwrdd), y siwgr, zest a hanner sudd y leim a’r pupur du.
- Torrwch y cyw iâr i mewn i stribedi tenau cyn eu hychwanegu i’r marinad am o leiaf 30 munud. Mae yna groeso i chi adael i’r gig farinadio hyd at 12 awr.
- Paratowch y saws drwy gymysgu’r peanut butter, yr hoisin, gweddill y sinsir, sudd hanner leim, llwy de o fish sauce a saws tsili i flas. Llaciwch y cymysgedd efo ychydig o ddŵr berw i gael tewder llyfn i dipio.
- Cynheswch eich gril i uchel. Rhowch y cyw iâr ar sgiwerau.
- Coginiwch y sgiwerau o dan y gril am 4-5 bob ochr neu tan eu bod wedi coginio trwodd gan gofio i frasteru (baste) y cig gyda’r marinad dros ben. Gallwch hefyd goginio’r sgiwerau ar farbeciw neu ar gril top stôf.
- Gweinwch gyda’r saws, ychydig o reis neu nwdls a salad o giwcymbr, mintys, coriander ffres a berwr.