Mae’r tywydd yn oeri, felly mae hi’n amser am rysait i’ch cynhesu chi! Dyma gawl syml, ac yn hytrach nag ychwanegu croutons beth am ychwanegu ffacbys wedi rhostio?
Mae’r rysait yma yn gwneud digon ar gyfer pum powlen o gawl.
Cynhwysion:
Ar gyfer y cawl:
1kg o foron
3 ewyn garlleg
1 nionyn
1 darn maint bawd (bawd reit fawr!!!) o sinsir
1 llwy fwrdd o olew
Litr o stoc llysiau
Ar gyfer y ffacbys:
1 tin 400g o ffacbys
1 llwy fwrdd o tumeric
halen a phupur
1 llwy fwrdd o olew
Dull:
Y cawl:
- Pliciwch a thorri’r moron, garlleg, nionyn a sinsir.
- Cynheswch yr olew mewn sospan fawr, ac ychwanegwch y moron, garlleg, nionyn a’r sinsir.
- Ffriwch y cyfan am rhyw 10 munud, gan droi y cynhywsion yn aml.
- Ychwanegwch y stoc a rhowch y caead ar y sospan a gadael y cyfan i goginio am 40 munud.
- Wedi’r 40 munud, rhowch y cyfan yn y blender a’i gymysgu nes ei fod yn llyfn.
Y ffacbys:
- Cynheswch y popty i 200 gradd.
- Sychwch y ffacbys gyda phapur cegin, a chael gwared o unrhyw groen sydd wedi disgyn oddi ar y ffacbys.
- Mewn powlen cymysgwch yr olew, tumeric a lot o halen a phupur.
- Ychwanegwch y ffacbys i’r bowlen a gwneud yn siwr bod y ffacbys wedi eu gorchuddio yn yr hylif.
- Rhowch bapur pobi ar hambwrdd pobi, a rhowch y ffacbys ar yr hambwrdd.
- Rhowch yr hambwrdd yn y popty am 30 munud.