Dyma gawl syml sy’n gyfuniad clasurol a’n ffefryn yn tŷ ni! amser yma o’r flwyddyn dwi’n tueddi i neud llond crochan o gawl ar ddechrau’r wythnos – perffaith ar gyfer mynd efo chi i’r gwaith. Dwi’n defnyddio’r sbeis coriander yn hytrach na’r perlysieuyn oherwydd dwi’n chwilio am flas twfn a chynnes i’r cawl. Mae yna…
Categori: Fegan
Orecchiette, ffa dringo a tomatos
Mae orecchiette yn golygu “clustiau bach”. Mae’r siâp yma’n boblogaidd iawn yn ne Eidal, yn enwedig yn rhanbarth Puglia. Yn draddodiadol, mae’r pryd yn cynnwys dail maip (“turnip tops” neu cime di rapa), ond dwi wedi penderfynu defnyddio ffa rhedwr gan eu bod yn eu tymor. Mae’r pangritata hefyd yn wych mewn salad, ar ben…
Ratatouille efo couscous mawr
Mae hwn yn bryd yn ei hun ac mae’r cyfan yn digwydd mewn un pot! Mae ratatouille yn hyfryd yn ei hun ond dwi wedi ychwanegu ychydig o couscous i wneud y pryd yn un mwy swmpus. Gallwch brynu couscous mawr (giant couscous / Israeli couscous) mewn archfarchnadoedd mawr. Gallwch ddefnyddio orzo neu hyd yn…
Fusilli efo Saws Brocoli
Mae hwn yn bryd hyfryd sy’n defnyddio’r brocoli cyfan. Mae’r saws yn gweithio gydag amryw o lysiau gwyrdd fel cêl a bresych. I fwydo 2. Cynhwysion; Tua 160g o fusili 50g cnau Ffrengig (walnuts) Un brocoli cyfan Ewyn o arlleg wedi’u blicio Olew olewydd Lemwn Pinsiad o tsili sych Parmesan (os oes eisiau) Dull; Torrwch…
Cawl Moron a Sinsir
Mae’r tywydd yn oeri, felly mae hi’n amser am rysait i’ch cynhesu chi! Dyma gawl syml, ac yn hytrach nag ychwanegu croutons beth am ychwanegu ffacbys wedi rhostio? Mae’r rysait yma yn gwneud digon ar gyfer pum powlen o gawl. Cynhwysion: Ar gyfer y cawl: 1kg o foron 3 ewyn garlleg 1 nionyn 1 darn…
Cawl Artisiog a Chnau Castan
Cawl moethus ond hawdd sy’n berffaith i’r tywydd oer. Mae’r cyfuniad o artisiogau Jerwsalem a’r cnau castan yn creu cawl llyfn heb ychwanegu hufen – mewn gwirionedd, mae’r cawl yma yn hollol fegan! Mae’n werth ychwanegu’r “salsa” canu castan a chennin syfi er mwyn ychwanegu ychydig o wead i mewn i’r pryd – rhywbeth sy’n…