Dyma farinad Cajun syml, does dim angen prynu’r marinad maen nhw’n werthu yn y siopau pan y gallwch ei wneud eich hunain efo sbeisys sydd yn y cwpwrdd yn barod!
Mae’r rysait yma’n ddigon ar gyfer dau ddarn o gig neu bysgodyn.
Cynhwysion:
1 llwy fwrdd o baprica
1/2 llwy de o bowdr garlleg
1 llwy fwrdd o bupur cayenne (1/2 llwy fwrdd os ddim yn hoffi gormod o sbeis!)
1 llwy de o bupur
1 llwy de o oreganno
1/2 llwy de o deim
3 llwy fwrdd o olew olewydd
Dull:
- Cymysgwch y sbeisys mewn powlen.
- Ychwanegwch yr olew.
- Gorchuddiwch eich cig neu bysgodyn â’r gymsgedd.
- Rhowch yn yr oergell, wedi gorchuddio am oleiaf awr. Byddaf fel arfer yn eu gadael dros nos.
- Coginiwch!