Fusilli efo Saws Brocoli

Mae hwn yn bryd hyfryd sy’n defnyddio’r brocoli cyfan. Mae’r saws yn gweithio gydag amryw o lysiau gwyrdd fel cêl a bresych.

I fwydo 2.

Cynhwysion;

Tua 160g o fusili

50g cnau Ffrengig (walnuts)

Un brocoli cyfan

Ewyn o arlleg wedi’u blicio

Olew olewydd

Lemwn

Pinsiad o tsili sych

Parmesan (os oes eisiau)

Dull;

  1. Torrwch flodigion (florets) y brocoli i ffwrdd a thorrwch yn fân. Pliciwch haenen allanol y coesyn brocoli cyn ei dorri i mewn i giwbiau bach.
  2. Coginiwch flodigion y brocoli a’r garlleg gan ei ferwi mewn dŵr hallt am tua 6 munud. Draeniwch y cyfan – peidiwch â chael gwared â’r dŵr, defnyddiwch hwn i goginio’r pasta.
  3. Rhowch y brocoli, garlleg, a’r cnau Ffrengig mewn prosesydd bwyd gyda phinsiad o tsili, zest a sudd y lemwn a llwy fwrdd o olew olewydd. Ychwanegwch ychydig o’r dŵr coginio os ydy’r saws ychydig yn drwchus. Ychwanegwch halen a phupur i flas.
  4. Rhowch y pasta a’r darnau coesyn brocoli i ferwi mewn dŵr hallt a choginiwch tan yn al dente; rhyw 8-10 munud neu yn ôl cyfarwyddiadau’r paced. Yn y cyfamser, cadwch y saws yn gynnes mewn padell fawr ar wres isel.
  5. Draeniwch y pasta gan gadw llond cwpan o’r dŵr coginio. Rhowch y pasta i mewn gyda’r saws brocoli a chymysgwch y cyfan yn dda. Llaciwch y cyfan gydag ychydig o ddŵr coginio’r pasta os oes angen a cofiwch ychwanegu halen a phupur i flas.
  6. Gweinwch yn syth gydag ychydig o barmesan os dymunwch.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s