Dwi wrth fy modd efo’r rysáit vegan yma. Mae’n syml iawn i’w baratoi ac yn ofnadwy o flasus. Mae’r rysáit yn gweithio orau os ydych chi’n socian y cnau dros nos.
Mae’r rysáit yma ar gyfer dau berson.
Cynhwysion;
80g o Basta Cyflawn
50g o gnau Cashew
200ml o ddŵr
100g o frocoli
1 sialotsyn neu nionyn bach wedi’i dorri’n fân
1 ewin o arlleg wedi ei dorri’n fan
1 llwy de o fasil sych
Halen a Phupur
Llwy fwrdd o olew olewydd
1 llwy fwrdd o gaws parmesan wedi ei gratio
Dull;
- Rhowch y cnau mewn powlen a’u gorchuddio â dŵr oer. Mae’n werth socian y cnau dros nos os yn bosib.
- Wedi i’r cnau fod yn socian draenwch y dŵr a rhoi’r cnau mewn prosesydd bwyd, ac ychwanegu 200ml o ddŵr ffres a’u cymysgu nes eu bod fel hufen. Ychwanegwch y basil a chymysgu eto.
- Llenwch sosban â dŵr berwedig ac ychwanegu’r pasta. Coginiwch y pasta am 10 munud, wedi’r 10 munud ychwanegwch y broccoli at y pasta a choginio’r cyfan am 3 munud arall.
- Tra mae’r pasta a’r brocoli’n coginio cynheswch yr olew mewn padell a ffriwch yr sialotsyn/nionyn a’r garlleg mewn padell am funud.
- Pan mae’r pasta a’r brocoli’n barod, draenwch y dŵr ac ychwanegwch nhw i’r badell at y sialotsyn/nionyn a’r garlleg a chymysgu.
- Arllwyswch yr hufen cashew ar y pasta a’r broccoli a chymysgu.
- Ychwanegwch y parmesan a chymysgwch.
Mwynhewch!