Salad ffenigl ac asbaragws

Salad ffres sy’n gwneud y mwyaf o rhai o lysiau orau’r Gwanwyn / Haf.

Mae hwn yn wych gyda chig wedi’i grilio neu ar fruschetta.

I fwydo 4.

Cynhwysion;

1 Ffenigl

250g asbaragws

150g o  domatos

Llond llaw o fintys ffres

Lemwn – zest a sudd

Tsili – ffres neu sych (opsiynnol)

Olew olewydd extra virgin

Dull;

  1. Sleisiwch y ffenigl i mewn i ddarnau sydd mor denau â phosib. Defnyddiwch bliciwr i greu rhubanau o’r asbaragws a thorrwch y tomatos i mewn i ddarnau bach. Rhowch y cyfan mewn powlen.
  2. Rhwygwch y mintys ffres  ac ychwanegwch zest y lemwn, a’r tsili os ydych yn defnyddio.
  3. Ychwanegwch binsiad o halen a phupur cyn ychwanegu tua 1-2 lwy fwrdd o olew olewydd a sudd y lemwn. Cymysgwch y cyfan a mwynhewch!

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s