Rydym yng nghanol tymor y “Jersey Royals”. Mae blas y tatws newydd heb ei hail a dwi’n hoff iawn o baratoi nhw’n syml.
Mae’r dresin mintys llawn bywyd ac yn mynd yn wych gydag unrhyw lysiau gwyrdd fel asbaragws, pys, ffa neu hyd oed brocoli.
Cynhwysion;
500g “Jersey Royals”
Llond llaw o fintys ffres (tua 30g)
3 llwy fwrdd o olew rapeseed
Sudd lemwn
Dull;
- Tynnwch y dail i ffwrdd o goesau’r mintys a chadwch i un ochr.
- Rhowch y tatws i ferwi mewn sosban mewn dŵr hallt gyda’r coesau mintys am ryw 8-10 munud.
- Mewn morter a phestl, mathrwch a chwalwch y dail mintys gyda phinsiad bach o halen er mwyn creu past. Ychwanegwch yr olew a sudd hanner lemwn. Ychwanegwch bupur a mwy o halen os oes angen.
- Draeniwch y tatws a chymysgwch gyda’r dresin tra’n gynnes.
- Gweinwch gyda physgodyn fel brithyll neu eog, ac asbaragws ffres.