Dyma rysáit am Pad Thai syml, mae’r rysáit yma’n hawdd i’w baratoi ac yn grêt os ydych chi eisiau rhywbeth iachus a chyflym i’w baratoi yn ystod yr wythnos. Os nad ydych yn hoffi corgimychiaid gallwch ddefnyddio cyw iâr.
Mae’r rysáit yma’n gwneud digon i ddau:
Cynhwysion:
10 Sugar snap peas
1 tsili birds eye
Llond llaw o beansprouts
1 spring onion
½ moronen
1 ewyn garlleg
200g o nwdls reis
60g o gorgimychiaid mawr wedi’u coginio
2 lwy de o fish sauce
Llwy fwrdd o Soy Sauce
1 llwy de o fêl
Llond llaw o gnau (peanuts neu cashews yn gweithio) wedi’u torri’n fân.
2 wy
1 llwy fwrdd o olew olewydd
Dull:
- Coginiwch y nwdls – dilynwch y cyfarwyddiadau ar y paced ar sut i’w coginio!
- Sleisiwch y sugar snap peas, tsili, spring onion, garlleg a’r foronen.
- Cymysgwch y fish sauce, soy sauce a mêl mewn powlen fach.
- Cynheswch yr olew mewn wok neu badell fawr cyn ychwanegu’r llysiau wedi’u sleisio a’r beansprouts a’u ffrio am ryw bum munud.
- Chwisgiwch yr wyau cyn eu hychwanegu i’r badell a’u cymysgu gyda’r llysiau.
- Ychwanegwch y nwdls a’r corgimychiaid a chymysgu.
- Ychwanegwch y gymysgedd soy sauce, fish sauce a mêl a chymysgu.
- Cynheswch badell arall a thostwich y cnau wedi’u torri fan am tua munud, cyn eu hychwanegu at y Pad Thai.
- Gweinwch a mwynhewch!