Ffordd ffres i ddefnyddio seleriac. Mae o’n mynd yn wych gydag unrhyw gig parod neu eog / macrell wedi’i fygu
Dwi’n defnyddio iogwrt naturiol yn hytrach na mayonnaise nid yn unig er mwyn torri lawr ar y calorïau ond i wneud y remoulade flasu’n ysgafnach.
Cynhwysion;
Seleriac
Dwy lwy fwrdd Iogwrt Naturiol
Dwy lwy de Mwstard gwenith cyfan
LLwy dwrdd o finegr seidr / gwin gwyn
Ham Parma
Dull;
- Paratowch y dresin drwy gymysgu’r iogwrt, mwstard, finegr ac ychydig o halen a phupur mewn powlen fawr a chymysgwch y cyfan yn dda.
- Pliciwch y seleriac a thorrwch i mewn i stribedi bach tenau (matchsticks) – dwi’n tueddu i wneud hyn gyda chyllell miniog ond mae’n berffaith iawn i chi ddefnyddio gratiwr. Ychwanegwch y seleriac i’r dresin a chymysgwch i orchuddio’r cyfan.
- Gweinwch ar blât gyda’r ham parma ac ychydig o fara Ffrengig.