Hwmws Garlleg Gwyllt

Mae’r tymor ar gyfer garlleg gwyllt yn para o fis Mawrth tan tua Mai. Mae’r blas garlleg yn feddal –  yn wahanol iawn i’r blas cryf sydd mewn ewin o arlleg arferol. Dwi wrth fy modd mynd am dro amser yma o’r flwyddyn ac arogli’r garlleg yn yr awyr – mae’n neud fi isio coginio!

Cliciwch yma i gael mwy o wybodaeth ar arlleg gwyllt. PEIDIWCH â bwyta dim byd os nad ydych chi hollol siŵr o beth rydych yn ei bigo.

Mae’r rysáit yma ar gyfer hwmws yn bell o fod yn draddodiadol. Mae’r dechneg arferol yn cynnwys defnyddio llwyth o olew olewydd – blasus iawn ond mae’n codi lefel y calorïau yn aruthrol! Dwi’n defnyddio’r dŵr/sudd sy’n dod yn y tun o ffacbys (chickpeas) fel yr hylif.

Peidiwch â phoeni os does gennych chi ddim garlleg gwyllt i law – defnyddiwch un ewin fach o arlleg arferol amrwd yn ei le.

Cynhwysion;

Tun 400g o ffacbys chickpeas

Tua 100g (neu lond llaw) o arlleg gwyllt

Croen a sudd un lemwn

Llwy fwrdd o tahini/peanut butter

Llwy de o bowdr cwmin

Halen a phupur

Dull;

  1. Cymysgwch y cyfan mewn prosesydd bwyd neu hylifydd. Mae o fyny i chi os hoffwch chi gael hwmws hollol llyfn neu beidio.
  2. Blaswch i welwch os oes angen mwy o halen neu lemon.
  3. Gweinwch mewn powlen ciwt gyda bara pitta a llysiau amrwd megis moron, seleri neu stribedi o bupur coch.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s