Dwi wedi bod yn ceisio ychwanegu mwy o bysgod i’n neiet dros yr wythnosau diwethaf, felly dyma rysáit eog syml i chi.
Mae’r rysáit yma ar gyfer tair ffiled eog.
Cynhwysion:
Saws Soy
Un ewin garlleg
Mêl
3 ffiled eog
Hadau sesame
Dull:
- Torrwch y garlleg yn fân.
- Rhowch yr eog mewn dysgl all fynd i’r popty.
- Cymysgwch y saws soy, garlleg a mêl a’i arllwys ar yr eog cyn ei orchuddio a cling film a’i roi yn yr oergell am o leiaf awr.
- Cynheswch y popty i 200 gradd, taenwch yr hadau sesame ar yr eog cyn ei roi yn y popty am 20 munud.
Gweinwch â reis neu salad.