Cinio ysgafn a hawdd efo dim ond ychydig o gynhwysion. Triwch gael hyd i domatos da sy’n felys a llawn blas.
Mae’n bwysig cofio fod halloumi yn cynnwys lot o fraster a halen felly byddwch yn ofalus os ydych yn cadw llygad ar eich calorïau.
I fwydo 1; lluoswch y rysáit i fwydo mwy.
Cynhwysion:
80g Halloumi
Llond llaw o domatos aeddfed
Basil ffres
Olew Olewydd Extra Virgin
Dull;
- Torrwch y tomatos i mewn i ddarnau bach a rhowch mewn powlen gyda phinsiad o halen. Rhowch i un ochr tra eich bod yn coginio’r halloumi.
- Sleiswch yr halloumi i mewn i ddarnau tenau tua 1/2cm o drwch. Cynheswch badell ffrio (non-stick fysa orau) ar wres canolig ac ychwanegwch yr halloumi. Mae yn a ddigon o fraster yn y caws ei hun felly nid oes angen ychwanegu unrhyw olew. Coginiwch am tua 1-2 munud bob ochr tan fod y caws yn euraidd.
- Codwch y darnau halloumi o’r badell a defnyddiwch bapur cegin i amsugno unrhyw saim gormodol sydd arnynt.
- Gweinwch ar blât gyda’r tomatos, llond law ddail basil ffres, ac ychydig o olew olewydd da.