Orecchiette, ffa dringo a tomatos

Mae orecchiette yn golygu “clustiau bach”. Mae’r siâp yma’n boblogaidd iawn yn ne Eidal, yn enwedig yn rhanbarth Puglia. Yn draddodiadol, mae’r pryd yn cynnwys dail maip (“turnip tops” neu cime di rapa), ond dwi wedi penderfynu defnyddio ffa rhedwr gan eu bod yn eu tymor. Mae’r pangritata hefyd yn wych mewn salad, ar ben…

Salad Moron + “whip” Caws Gafr

Dwi’n cofio cael rhywbeth tebyg i’r salad yma yn Sydney rhai blynyddoedd yn ôl. Roedd y pryd yna llawer mwy ffansi na hwn ond mae’r blasau’n debyg iawn. Gallwch chi weini hen fel cwrs cyntaf neu fel prif gwrs. Neu gallwch chi weini hwn fel pryd ochr mewn barbeciw. Perffaith gyda gwydriad o win gwyn…

Tacos Tyten Felys a Cennin

Y bwyty Guerilla Tacos yn LA ddoth fyny efo’r tacos syml ond sylweddol yma. Dwi wedi symleiddio’r rysáit rhywfaint ac wedi torri lawr ar y caws a’r menyn sydd yn y gwreiddiol. Tacos llysieuol gwych. Peidiwch ychwanegu feta i gadw’r rysáit yn fegan. I fwydo 4. Cynhwysion: Tysen Felys, 1kg wedi’u golchi ond heb eu plicio Cwmin, llwy…

Cawl Artisiog a Chnau Castan

Cawl moethus ond hawdd sy’n berffaith i’r tywydd oer. Mae’r cyfuniad o artisiogau Jerwsalem a’r cnau castan yn creu cawl llyfn heb ychwanegu hufen – mewn gwirionedd, mae’r cawl yma yn hollol fegan! Mae’n werth ychwanegu’r “salsa” canu castan a chennin syfi er mwyn ychwanegu ychydig o wead i mewn i’r pryd – rhywbeth sy’n…

Byrgyr Ffa Du a Chnau Castan

“Black Bean & Chestnut Burger” Oni (Tomos!) ffansi newid pethe a dod fyny efo fwy o ryseitiau llysieuol. Hwn yn ticio pob un bocs i fi. Mae barn pawb ar sut i adeiladu’r byrgyr delfrydol yn wahanol!! Yn bersonol os oes rhywun yn rhoi sos coch ar fy myrgyr i, mae o’n cael fflich at…

Cennin wedi’u Crasu

Mae hi’n Ddydd Gŵyl Dewi felly beth gwell i’w goginio na’n llysieuyn cenedlaethol! Mae hwn yn bryd llysieuol hawdd i’w baratoi. Mae’n bryd ynddo’i hun neu gallwch ei weini gyda ffiled o bysgodyn gwyn neu gyw iâr wedi rhostio. Cynhwysion (digon ar gyfer pryd i un) 2 Genhinen 5 Cneuen Cyll (Hazelnuts) Pecorino (neu unrhyw…

Colslo Cêl

Mae cêl (Saesneg: Kale) yn uffernol o dda i chi – llawn maeth ac yn flasus os wyt ti’n ei baratoi yn iawn. Mae’n hawdd dod o hyd i fag o gêl mewn archfarchnadoedd dyddiau yma. Nesi ddod fyny efo’r ryseit yma i fynd efo’r BFC. Dwi hefyd yn defnyddio iogwrt yn hytrach na mayonnaise…