Tacos Tyten Felys a Cennin

Y bwyty Guerilla Tacos yn LA ddoth fyny efo’r tacos syml ond sylweddol yma. Dwi wedi symleiddio’r rysáit rhywfaint ac wedi torri lawr ar y caws a’r menyn sydd yn y gwreiddiol.

Tacos llysieuol gwych. Peidiwch ychwanegu feta i gadw’r rysáit yn fegan.

I fwydo 4.

Cynhwysion:

Tysen Felys, 1kg wedi’u golchi ond heb eu plicio

Cwmin, llwy fwrdd

Paprica, llwy fwrdd

Leim

Cennin, 500g wedi’i sleisio i mewn i ddarnau modfedd o drwch

Garlleg, un ewin

Teim ffres

Feta

Saws tsili, dwi’n hoffi Cholula

Tortillas bach, 20

Olew olewydd

Dull:

  1. Cynheswch bopty i 200 gradd.
  2. Torrwch y tysen felys i mewn i ddarnau mawr a rhowch ychydig o olew olewydd, y cwmin, paprica a halen a phupur dros y cyfan cyn eu rhostio yn y ffwrn am tua 30 munud.
  3. Paratowch y cennin. Cynheswch ychydig o olew olewydd mewn sosban ar wres canolig ac ychwanegwch y cennin, y garlleg, a’r teim. Rhowch gaead ar y sosban cyn troi’r gwres lawr i isel. Coginiwch am 10-15 munud gan wneud yn siŵr fod y cennin ddim yn llosgi -ychwanegwch ychydig o ddŵr os ydy pethau’n edrych ychydig yn sych.
  4. Unwaith mae’r tysen felys yn feddal a’r croen wedi crasu rhywfaint, rhowch mewn powlen cymysgu a masiwch yn ysgafn gyda fforc – ychwanegwch gyda halen, pupur a sudd leim i flas.
  5. Cynheswch y tortillas unai mewn microdon, mewn padell ffrio sych, neu dros fflamiau’r hob nwy.
  6. I baratoi taco, rhowch lwyaid o’r tysen felys ymlaen gyntaf cyn rhoi llwyaid o’r cymysgedd cennin; rhowch ychydig o feta dros y cyfan ac ychwanegwch ychydig o saws tsili os mynnwch!
  7. Gweinwch gyda ychydig o ddarnau leim ar yr ochr i wasgu dros y cyfan.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s