Pryd tapas sy’n ffordd neis efo asbaragws sydd yn eu tymor rŵan. Gweinwch efo wy wedi’i botsio i wneud pryd mwy swmpus.
Mae’r saws tomato a phupur yma’n wych gyda phasta hefyd.
I fwydo 2.
Cynhwysion:
Tua 250g o asbaragws
Paced o ham serrano (tua 80g)
250g tomatos ceirios
1 pupur coch neu melyn
Teim ffres
Finegr sieri
Olew Olewydd
Dull:
- Cynheswch ffwrn i 200gradd a gril i’r gwres uchaf posib.
- Roliwch yr asbaragws yn yr ham (mae hanner sleis o ham yn ddigon i un coesyn asbaragws) a rhowch ar hambwrdd pobi wedi’i leinio efo papur greaseproof. Rhowch ychydig bach o olew olewydd dros y cyfan i helpu’r coginio.
- Rhowch y tomatos a’r pupur mewn dysgl addas i’r ffwrn efo ychydig bach o olew a halen a phupur a rhowch o dan y gril i grasu am tua 10 munud.
- Rhowch gynhwysion y saws unai mewn prosesydd bwyd neu hylifydd. Ychwanegwch lwy fwrdd o finegr sieri a halen a phupur i flas.
- Coginiwch yr asbaragws yn y popty am 5-8 munud.
- Gweinwch yn syth efo ychydig o fara.