Orecchiette, ffa dringo a tomatos

Mae orecchiette yn golygu “clustiau bach”. Mae’r siâp yma’n boblogaidd iawn yn ne Eidal, yn enwedig yn rhanbarth Puglia. Yn draddodiadol, mae’r pryd yn cynnwys dail maip (“turnip tops” neu cime di rapa), ond dwi wedi penderfynu defnyddio ffa rhedwr gan eu bod yn eu tymor. Mae’r pangritata hefyd yn wych mewn salad, ar ben…

Ratatouille efo couscous mawr

Mae hwn yn bryd yn ei hun ac mae’r cyfan yn digwydd mewn un pot! Mae ratatouille yn  hyfryd yn ei hun ond dwi wedi ychwanegu ychydig o couscous i wneud y pryd yn un mwy swmpus. Gallwch brynu couscous mawr (giant couscous / Israeli couscous) mewn archfarchnadoedd mawr. Gallwch ddefnyddio orzo neu hyd yn…

Tacos Tyten Felys a Cennin

Y bwyty Guerilla Tacos yn LA ddoth fyny efo’r tacos syml ond sylweddol yma. Dwi wedi symleiddio’r rysáit rhywfaint ac wedi torri lawr ar y caws a’r menyn sydd yn y gwreiddiol. Tacos llysieuol gwych. Peidiwch ychwanegu feta i gadw’r rysáit yn fegan. I fwydo 4. Cynhwysion: Tysen Felys, 1kg wedi’u golchi ond heb eu plicio Cwmin, llwy…

Cawl Artisiog a Chnau Castan

Cawl moethus ond hawdd sy’n berffaith i’r tywydd oer. Mae’r cyfuniad o artisiogau Jerwsalem a’r cnau castan yn creu cawl llyfn heb ychwanegu hufen – mewn gwirionedd, mae’r cawl yma yn hollol fegan! Mae’n werth ychwanegu’r “salsa” canu castan a chennin syfi er mwyn ychwanegu ychydig o wead i mewn i’r pryd – rhywbeth sy’n…