Salad Moron + “whip” Caws Gafr

Dwi’n cofio cael rhywbeth tebyg i’r salad yma yn Sydney rhai blynyddoedd yn ôl. Roedd y pryd yna llawer mwy ffansi na hwn ond mae’r blasau’n debyg iawn. Gallwch chi weini hen fel cwrs cyntaf neu fel prif gwrs. Neu gallwch chi weini hwn fel pryd ochr mewn barbeciw. Perffaith gyda gwydriad o win gwyn oer!

Digon i 4.

Cynhwysion:

1kg o foron

1 tin 400g o ffacbys, wedi’i draenio

Hadau carawe (caraway), llwy fwrdd

Dwy shibwns (spring onions), wedi’i sleisio’n fân

Hadau pomgranad, allan o un pomgranad fawr

Iogwrt plaen, tua 500g

Caws gafr meddal, 125g

Olew olewydd

Lemwn, sudd

  1. Cymysgwch y caws gafr i mewn i’r iogwrt. Ychwanegwch ychydig o sudd lemwn a halen a phupur i flas. Cadwch hwn i un ochr i yn yr oergell.
  2. Cynheswch ffwrn i 200 gradd. Torrwch y moron i mewn i ddarnau. Gorchuddiwch y moron a’r ffacbys gydag ychydig o olew olewydd, yr hadau carawe, halen a phupur. Rhostiwch am tua 25 munud.
  3. Rhowch y moron a’r ffacbys mewn powlen ac ychwanegwch y shibwns a’r hadau pomgranad. Gwnewch ddresin gyda sudd mewn ac ychydig bach o olew olewydd ac ychwanegwch hwn i mewn i’r salad.
  4. Rhowch dipyn o’r cymysgedd caws gafr ar bob plât a phentyrrwch y salad moron a ffacbys yn y canol. Gweinwch gyda bara pitta cynnes.

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s