Cawl moethus ond hawdd sy’n berffaith i’r tywydd oer. Mae’r cyfuniad o artisiogau Jerwsalem a’r cnau castan yn creu cawl llyfn heb ychwanegu hufen – mewn gwirionedd, mae’r cawl yma yn hollol fegan!
Mae’n werth ychwanegu’r “salsa” canu castan a chennin syfi er mwyn ychwanegu ychydig o wead i mewn i’r pryd – rhywbeth sy’n bwysig mewn cawl yn fy marn i.
Os rydych yn cael trafferth cael hyd i artisiogau Jerwsalem, defnyddiwch celeriac yn ei le.
I fwydo 2.
Cynhwysion;
500g Artisiog Jerusalem
Nionyn wen
1 Ewin o arlleg
1 Pecyn 180g o gnau castan parod (140g i’r cawl a 40g i’r “salsa”)
Olew Olewydd
Cennin syfi (chives)
Finegr sieri (gallwch ddefnyddio sudd lemwn neu finegr seidr/gwin gwyn)
Dull;
- Paratowch y “salsa” drwy dorri 40g o’r cnau castan yn ddarnau bach. Torrwch y cennin syfi mor fach â phosib a chymysgwch gyda’r cnau efo llwy de o olew olewydd, llwy de o’r finegr sieri ac ychydig o halen a phupur.
- Pliciwch yr artisiogau cyn ei sleisio’n fân. Rhowch i un ochr.
- Torrwch y nionyn yn denau a choginiwch, heb liw, mewn sosban gyda llwy fwrdd o olew olewydd am tua 8 munud ar wres canolig isel.
- Ychwanegwch y garlleg a choginiwch am funud cyn ychwanegu’r artisiog a gweddill y cnau castan. Cymysgwch y cyfan yn dda cyn ychwanegu dŵr berwedig i orchuddio’r cyfan o ryw gentimedr. Codwch y gwres a choginiwch am tua 10 munud neu tan mae’r artisiog yn feddal.
- Blendiwch tan yn llyfn ac ychwanegwch halen, pupur ac ychydig o finegr sieri i flas. Gweinwch gyda phentwr bach o’r salsa yng nghanol y bowlen.