Mae orecchiette yn golygu “clustiau bach”. Mae’r siâp yma’n boblogaidd iawn yn ne Eidal, yn enwedig yn rhanbarth Puglia. Yn draddodiadol, mae’r pryd yn cynnwys dail maip (“turnip tops” neu cime di rapa), ond dwi wedi penderfynu defnyddio ffa rhedwr gan eu bod yn eu tymor.
Mae’r pangritata hefyd yn wych mewn salad, ar ben cawl, neu ar ben llysiau gwyrdd ffres fel brocoli.
Peidiwch ychwanegu’r ansiofi i gadw’r pryd yn fegan.
I fwydo 2.
Cynhwysion;
180g o orrechiette
1-2 ffiled ansiofi
2 ewyn garlleg, wedi’u sleisio’n fân
Pinsiad o tsili sych
80g o domatos bach
180g ffa rhedwr (runner beans)
2 llwy fwrdd o olew olewydd
Sudd lemwn
PANGRITATA
Llond llaw o friwison bara
1/2 llwy de o oregano sych
Dull;
- Gwnewch y pangritata. Tostiwch y briwsion bara mewn padell ffrio sych (dim olew) ar wres canolig am ryw 3 i 5 munud. Ychwanegwch yr oregano a phinsiad o halen a phupur a diffoddwch y gwres. Rhowch y pangritata mewn powlen neu jar a rhowch i un ochr.
- Torrwch y ffa rhedwr i mewn i ddarnau tua modfedd o hyd a hanerwch y tomatos.
- Coginiwch y pasta mewn dŵr berwedig efo digon o halen am ryw 7 munud cyn ychwanegu’r ffa rhedwr.
- Ar ôl ychwanegu’r ffa rhedwr i mewn gyda’r pasta, dechreuwch y saws. Cynheswch yr olew olewydd mewn padell ffrio fawr ar wres canolig uchel cyn ychwanegu’r garlleg, ansiofi a’r tsili sych. Coginiwch am ryw funud neu tan mae’r garlleg yn dechrau troi’n euraidd ac mae’r ansiofi wedi toddi i mewn i’r olew. Ychwanegwch y tomatos a diffoddwch y gwres.
- Draeniwch y pasta a’r ffa mewn colender gan gadw llond cwpan o’r dŵr coginio. Rhowch y pasta i mewn gyda’r saws a chymysgwch y cyfan yn dda. Ychwanegwch sudd lemwn ac ychydig o ddŵr coginio’r pasta i lacio’r cyfan. Gweinwch yn syth gyda’r pangritata.