Mae cêl (Saesneg: Kale) yn uffernol o dda i chi – llawn maeth ac yn flasus os wyt ti’n ei baratoi yn iawn. Mae’n hawdd dod o hyd i fag o gêl mewn archfarchnadoedd dyddiau yma. Nesi ddod fyny efo’r ryseit yma i fynd efo’r BFC. Dwi hefyd yn defnyddio iogwrt yn hytrach na mayonnaise i’w wneud yn ysgafnach ac yn iachach.
Cynhwysion (digon i fwydo 4)
3 lond llaw o Gêl – Wedi’u stripio o’u coesynnau caled a’u sleisio’n fân
¼ Bresych Coch – Wedi’u sleisio yn fân
3 x Sbring Yniyns / Shibwns / Spring Onions – Wedi’u sleisio yn fân
1 x Moronsen – Wedi’i gratio
2 lwy fwrdd o hadau cymysg (pumkin, sunflowyr ayyb) wedi’u tostio mewn padell ffrio sych
2 lwy bwdin o Iogwrt Naturiol – dwi’n hoff iawn o gynnyrch Llaeth y Llan
Finegr Seidr / Gwin Gwyn Organig – 2 lwy bwdin
Halen a Phupur
Dull:
- Rho’r cêl mewn powlen fawr gyda’r finegr a phinsiad o halen a phupur. Cer ati i wasgu’r finegr a’r halen i mewn i’r cêl er mwyn meddalu fo ychydig a’i wneud yn haws i fwyta. Mae hwn yn gam pwysig.
- Ychwanega’r gweddill y cynhwysion a’u cymysgu’n dda.
- Blasu i weld os oes angen fwy o halen neu finegr.
One Comment Add yours