Math o basta yw orzo; enw arall ar ei gyfer yw pasta reis.
Mae hwn yn mynd yn wych gydag unrhyw bysgodyn neu gyw iâr wedi’i grilio fel rhan o bryd barbeciw.
Mae o fyny i chi faint o’r cynhwysion yma hoffwch chi yn eich salad – ychwanegwch mwy o domatos neu mwy o barmesan i mewn os hoffwch chi!
Cynhwysion:
Tua 250g orzo
Llond llaw o domatos
85g berwr dŵr (watercress)
Llond llaw o berlysiau ffres (persli, basil, chives)
Parmesan ffres
Llwy fwrdd o olew olewydd
Sudd a zest 1 lemwn.
Dull:
- Rhowch eich pasta i ferwi mewn dŵr hallt a choginiwch tan yn al dente; rhyw 8-10 munud.
- Draeniwch y pasta yn dda a rhowch mewn powlen. Ychwanegwch yr olew, sudd a zest y lemwn a phinsiad o halen a phupur i mewn i’r pasta tra ei fod yn gynnes. rhowch i un ochr i oeri am tua 5 munud.
- Torrwch y berwr dŵr a’r perlysiau yn fras cyn ychwanegu i’r orzo.
- Torrwch y tomatos i mewn i ddarnau bach ac ychwanegwch y rhain i’r orzo hefyd.
- Gratiwch tua llwy fwrdd o parmesan i mewn i’r orzo a chymysgwch y cyfan yn dda cyn gweini.