Nwdls Sbeisi Koreaidd

Mae gochujang yn bast sbeisi wedi’i eplesu (fermented) o Korea sy’n cynnwys tsili a reis gludiog ymysg pethau arall. Mae’r past yn boeth ond efo ychydig o felysrwydd ac mae’n rhoi nodyn sawrus i’ch bwyd mewn ffordd debyg i bast miso. Gallwch gael hyd i gochujang mewn siopau Asiaidd neu mewn rhai archfarchnadoedd mawr.

Os na allwch gael hyd i gochujang, defnyddiwch miso ac ychydig o bowdr tsili.

I fwydo 2.

Cynhwysion

150g nwdls wy, wedi’u coginio yn ôl cyfarwyddiadau’r paced a’i oeri.

100g o lain porc wedi’i sleisio’n debnau

2 spring onions

1 moronen wed’i dorri’n fan

1 pupur gwyrdd wed’i dorri’n fan

2 ewyn garlleg wedi’i gratio

2 llwy de o sinsir wedi’i gratio

2 llwy de o Gochujang

1 llwy de o finegr reis

1 llwy de o olew plaen

1 llwy de o olew sesame

Saws soy i flas

Dull

  1. Torrwch y spring onions yn denau gan gadw’r rhan wyrdd i addurno.
  2. Cynheswch wok neu badell ffrio fawr ar wres uchel.
  3. Rhowch yr olew plaen  yn y wok a cyn ychwanegu’r garlleg a’r sinsir a choginio am 30 eiliad. Ychwanegwch y porc a choginiwch am 2 funud.
  4. Ychwanegwch y moron a’r pupur a choginiwch am 2 funud ychwanegol.
  5. Ychwanegwch y gochujang ac ychydig o ddŵr a’r finegr.
  6. Ychwanegwch y nwdls i mewn i’r wok i gynhesu cyn ychwanegu’r saws soy i flas a’r olew sesame.
  7. Gweinwch yn syth a thopiwch gyda gweddill y spring onions.

 

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s