Rydyn ni ar ddechrau’r tymor tatws jersey royals felly cymrwch fantais o’u hargaeledd yn y siopau i greu’r rysáit Sgandinafaidd hon!
I fwydo 2-4.
Cynhwysion;
1kg o datws jersey royal (neu unrhyw datws newydd arall)
Tua 300g o facrell wedi’i fygu
Llond llaw o ruddygl (radish)
Llond llaw o ddil ffres
Tair llwy fwrdd o iogwrt naturiol
Llwy de o fwstard gwenith cyfan (wholegrain mustard)
Llwy de o fwstard dijon
Dull;
- Coginiwch y tatws newydd drwy eu berwi mewn dŵr hallt am ryw 8-10 munud. Draeniwch a rhowch i un ochr tra eich bod yn paratoi gweddill y cynhwysion.
- Tynnwch y croen i ffwrdd o’r ffiledau macrell a sleisiwch i mewn i stribedi bach. Torrwch y rhuddygl yn eu hanner.
- Paratowch y dresin drwy gymysgu’r iogwrt, y ddau fath o fwstard ac ychydig o halen a phupur mewn powlen fawr a chymysgwch y cyfan yn dda.
- Rhowch y tatws cynnes i mewn gyda’r dresin cyn ychwanegu’r macrell, rhuddygl a’r dil ffres. Cymysgwch y cyfan yn dda.
Mwynhewch gyda salad o ddail gwyrdd ac ychydig o fara rhyg.