Dwi wrth fy modd yn rhostio llysiau. Mae o’n hawdd neud ac yn ffordd dda i gael fwy o lysiau i mewn i’ch diet.
Mae’r pryd yma’n defnyddio’r tric o rewi feta cyn gratio. Mae rhewi’r feta yn galluogi i chi greu rhyw fath o bowdr sy’n gorchuddio’r bwyd yn dda gan adael blas cryf feta heb ddefnyddio llwyth o gaws. Gweler ein rysait ar gyfer golwyth porc am syniad arall ar gyfer y feta yma!
I fwydo 2.
Cynhwysion;
Tua 500g o foron wedi’i dorri i mewn i ddarnau
Tua 250g o frocoli (brocoli arferol wedi’i dorii’n ddarnau, neu tenderstem / “purple sprouting” cyfan)
2 lwy de o bowdr cwmin
Llwy fwrdd o olew olewydd
Lemwn – sudd a zest
Llond llaw o bersli ffres
Iogwrt plaen
Feta
Dull;
- Rhowch y feta yn y rhewgell dros nos.
- Cynheswch ffwrn i 200 gradd. Rhowch y moron a’r brocoli mewn hambwrdd rhostio (roasting tray) cyn arllwys yr olew olewydd, y powdr cwmin ac ychydig o bupur a halen dros y cynhwysion a chymysgu.
- Rhostiwch y cyfan am tua 20-30 munud tan fod y cyfan wedi coginio ac ochrau’r llysiau wedi crasu ychydig.
- Tynnwch y llysiau allan a’r ffwrn ac ychwanegwch sudd a zest y lemwn a’r persli ffres cyn cymysgu’r cyfan.
- Rhowch bedwar llwy fwrdd o iogwrt plaen ar waelod eich dysgl gweini cyn pentyrru’r llysiau rhost.
- Gratiwch ychydig o feta rewedig ar ochr fân y gratiwr dros y cyfan a gweinwch yn syth gyda bara pitta a hwmws.