Salad cynnes sydd, yn fy marn i, yn dod a’r gorau allan o bob cynhwysyn.
Mae sumac yn sbeis o’r dwyrain canol sydd efo blas sur. Mae’n mynd yn dda efo cyw iâr neu mewn tabbouleh. Mae o werth ei drio!
Mae’r picl nionyn cyflym yn cadw yn y ffrij am tua 4 diwrnod.
I fwydo 2.
Cynhwysion;
Pwmpen / butternut squash
200g mins cig oen
1/2 lwy de o tsili sych
1/2 lwy de o bowdr sinamon
1/2 lwy de o bodwr cumin
1/2 lwy de o sumac
Bwnsh o ddail persli ffres
Dail salad cymysg
Iogwrt naturiol plaen
Picl nionyn cyflym –
Nionyn Coch
Finegr Seidr
Dull;
- Torrwch y butternut squash i mewn i ddarnau tua un fodfedd sgwâr gan gadw’r croen ymlaen. Rhowch ychydig o olew olewydd a halen a phupur drostyn nhw a rhostiwch mewn ffwrn gymedrol (tua 180gradd) tan eu bod yn feddal – tua 40 i 60 munud.
- Nesaf, paratowch y nionyn. rhowch y nionyn wedi’i sleisio mewn powlen ac ychwanegwch lwy de o halen cyn cymysgu’r cyfan yn dda – bydd hyn yn tynnu dŵr allan o’r nionyn. Rhowch tua 3 i 4 lwy fwrdd o finegr dros y nionod a rhowch i un ochr i biclo.
- Coginiwch y cig oen mewn padell ffrio sych ar wres cymedrol. Ychwanegwch y powdr tsili, y cumin, y sinamon, a halen a phupur. Coginiwch tan fod y cig oen yn troi’n grisp. Fe ddylai hwn gymryd tua 10 munud.
- Cymysgwch y dail salad, y persli, y butternut squash rhost a’r cig oen crisp mewn powlen efo 2 lwy de o olew olewydd. Rhannwch ar blatiau a thopiwch gyda’r nionod, llwyed o iogwrt ac ychydig mwy o’r sumac.