Pasta syml sy’n sy’n barod mewn tua 10 munud! Mi wnes i ddefnyddio corgimwch wedi’i rhewi ar gyfer y rysáit yma. Gallwch ddefnyddio cranc allan o dun neu gallwch ddefnyddio darnau o frocoli i gadw’r pryd yn llysieuol (ac yn fegan).
I fwydo 2.
Cynhwysion;
Tua 160g o spaghetti
100g corgimwch amrwd
Llond llaw o bersli ffres
Pedwar tomato canolig wedi’u torri’n fân
Dau ewyn o arlleg wedi’u sleisio’n fân
Olew olewydd
Sudd lemwn
Dull;
- Rhowch eich pasta i ferwi mewn dŵr hallt a choginiwch am 8-10 munud.
- Ar ôl i’r pasta goginio am 5 munud, cynheswch 2 llwy fwrdd o olew olewydd mewn padell ffrio ac ychwanegwch y garlleg i goginio am funud neu tan mae’r garlleg yn dechrau troi’n euraidd.
- Ychwanegwch y tomatos a choginiwch am 2 funud cyn ychwanegu’r corgimwch. Coginiwch am ryw 2 funud neu tan mae’r corgimwch yn troi lliw.
- Gan ddefnyddio tongs neu declyn tebyg, ychwanegwch y pasta i mewn i’r badell ffrio a chymysgwch popeth yn dda. Ychwanegwch y persli a’r sudd lemwn. Llaciwch y cyfan gydag ychydig o ddŵr coginio’r pasta os oes angen a cofiwch ychwanegu halen a phupur i flas.
- Gweinwch yn syth!