Cig Oen, Pupur Coch, Finegr Sieri

Pryd cyflym i ddau. Mae’n anodd curo cig oen fel hyn – dwi wrth fyd modd yn cnoi’r cig oddi wrth yr asgwrn fel dyn ogof!  Mae’r finegr sieri yn torri drwy fraster y cig oen. Defnyddiwch finegr gwin coch neu ychydig o balsamic os does gennych chi ddim finegr sieri. I fwydo 2. Cynhwysion:…

Salad Pwmpen, Cig Oen Crisp a Persli

Salad cynnes sydd, yn fy marn i, yn dod a’r gorau allan o bob cynhwysyn. Mae sumac yn sbeis o’r dwyrain canol sydd efo blas sur. Mae’n mynd yn dda efo cyw iâr neu mewn tabbouleh. Mae o werth ei drio! Mae’r picl nionyn cyflym yn cadw yn y ffrij am tua 4 diwrnod. I…

Byrgyr Cig Oen efo Tzatziki

Newid bach i’r byrgyr cig eidion arferol. Gallwch newid y sbeis er mwyn creu blasau gwanhaol (er enghraifft, ychwanegwch ychydig o garam masala er mwyn cael byrgyr Indiaidd.) I fwydo 4. Cynhwysion; 500g mins cig oen LLwy de o bowdr sinsr 2 lwy de – cumin Llwy de o baprica Llwy de o oregano sych…

Ragù Cig Oen

Dwi wrth fy modd efo’r rysáit yma! Peidiwch bod ofn yr ansiofi, fydd ‘na ddim blas pysgod – mae o yno i roi dyfnder i’r ragù. Gweinais hwn efo pasta ond mae hefyd yn dda fel llenwad ar gyfer pei bugail. Mae’r rysáit hefyd yn addas i’w baratoi o flaen llaw a’i rewi. I fwydo 6. Cynhwysion;…