Dwi wrth fy modd â granola cartref, mae mor syml i’w baratoi ac yn cynnwys lot llai o siwgr na’r granola sydd ar werth yn y siopau. Dwi’n gweini granola â llefrith almwnd (gan nad ydw i’n hoffi llefrith) neu iogwrt, a lot o ffrwytha ffresh.
Cynhwysion
40g o gnau cashew
20g o hadau pwmpen
20g o hadau blodyn yr haul
30g o almonds
40g o gnau ffrenig walnuts
40g o gnau cyll hazelnuts
100g o geirch
20g o goconyt sych wedi ei dorri’n fan
1 llwy de o sinamon (opsiynol)
1 banana fawr
2 lwy fwrdd o maple syrup
Dull
- Cynheswch y popty i 180 gradd.
- Rhowch y cynhwysion i gyd heblaw am y sinamon, banana a’r maple syrup mewn prosesydd bwyd am ychydig eiliadau.
- Rhowch gynnwys y prosesydd bwyd mewn i bowlen fawr.
- Cymysgwch y banana, sinamon a maple syrup mewn prosesydd bwyd nes ei fod fel hylif.
- Arllwyswch y fanana, sinamon a maple syrup dros y cnau, hadau a cheirch a chymysgu.
- Rhowch y cynhwysion i gyd ar baking tray a’i roi yn y popty am 20 munud. Ar ôl 10 munud cymysgwch y cynhwysion.
- Cadwch y granola mewn cynhwysydd airtight.
One Comment Add yours