Dyma salad y gallwch chi ei baratoi os ydych chi ar frys. Does dim cynhwysion egsotig, mae’n syml, yn flasus ac yn rhad.
Cynhwysion
1 nionyn coch
1 tîn 400g o chickpeas
½ cucumber
100g o domatos bach
1 llwy de o flakes tsili
1 llwy fwrdd o sudd lemwn
1 llwy fwrdd o olew rapeseed/olew olewydd
1 llwy fwrdd o finegr seidr
Dull
- Torrwch y nionyn coch, tomatos a’r cucumber yn ddarnau bach a’u rhoi mewn powlen.
- Draeniwch y chickpeas a’i ychwanegu at weddill y cynhywysion.
- Cymysgwch y flakes tsili, sudd lemwn, olew rapeseed/olew olewydd a’r finegr seidr cyn eu harllwys at weddill y cynhwysion.