Mae pwdinau chia yn hollbresennol gyda blogwyr a phersonoliaethau’r sin bwyd iach ond am reswm da – maen nhw’n flasus, hawdd ac yn llawn maeth. Mae ychwanegu hadau chia i mewn i hylif yn achosi, gydag amser, i nhw chwyddo i tua 10 gwaith eu maint gwreiddiol – mae hyn yn eu troi nhw fewn i rywbeth tebyg i “tapioca” gan greu pwdin meddal a moethus.
Mae hadau chia yn cynnwys dos da o Omega 3, ffibr a phrotein. Maen nhw hefyd yn cynnwys y 9 asid amino hanfodol sydd angen ar ein cyrff i adeiladau cyhyrau. Dydy’r corff ddim yn cynhyrchu’r “blociau adeiladu” yma’n naturiol.
Gwych i frecwast neu fel pryd ar ôl ymarfer corff. Rhowch o mewn jar er mwyn ei bwyta yn y swyddfa.
Digon i 1
Cynhwysion;
4 lwy fwrdd o Hadau Chia
1 Banana Aeddfed
350 ml Llaeth/Llefrith o’cch dewis chi (llaeth buwch, almwnd, reis ayyb)
Llwy de o sinamon
1 Ffig aeddfed (opsiynnol)
Dull;
- Rhowch y llaeth, banana a’r sinamon mewn hylifydd i greu smwddi. Rhowch y cymysgedd mewn powlen fawr.
- Ychwanegwch yr hadau chia a chymysgwch popeth yn dda.
- Gorchuddiwch y bowlen gyda cling ffilm a rhowch yn y ffrij am o leiaf 4 awr neu dros nos. Bydd angen cymysgu’r pwdin ar ôl yr awr gyntaf er mwyn osgoi’r hadau yn clympio at ei gilydd.
- Rhowch y pwdin chia mewn bowlen neu jar yn barod i’w fwyta. Dwi’n mwynhau hwn gyda ffig aeddfed wedi’i sleisio ond defnyddiwch pa bynnag ffrwyth sy’n dymhorol.