Allwch chi ddyfalu beth yw’r cynhwysyn arbennig sy’n gwneud y gacen “gaws” yma’n fegan a llawn protein?
TOFU!
Mae tofu wedi’u wneud o ffa soia – mae’n isel mewn braster ac yn gynhwysyn hyblyg iawn yn y gegin. Mae’n brotein llawn (gan gynnwys 9 asid amino hanfodol) sy’n ei wneud yn ddewis gwych i lysieuwyr neu feganwyr.
Gwneud dau borsiwn.
Cynhwysion;
1 paced o silken tofu
1-2 lwy fwrdd o fêl neu maple syrup
Llwy fwrdd o flawd almon neu menyn cnau
Hanner banana
Fanila (opsiynnol)
Ffrwyth ffres (llus, banana, mefus)
Dull;
- Rhowch y tofu, blawd almon/menyn cnau, y banana, a’r mêl/maple syrup mewn hylifydd a chymysgwch tan fod y cyfan yn llyfn.
- Rhowch haenen o’r granola ar waelod eich jar cyn ychwanegu’r cymysgedd tofu. Topiwch y cyfan gyda’ch hoff ffrwyth. Mae yna groeso i chi fod mor greadigol ag y dymunwch gyda’r haenau. Dwi’n tueddu i adael; y jar yn yr oergell am o leiaf 30 munud neu’n hirach er mwyn gosod y tofu ychydig ond dydy hyn ddim yn gam angenrheidiol.
Beth am drio’r cyfuniadau isod?
- Siocled a peanut – ychwanegwch lwy de o bowdr cacao amrwd a thopiwch gyda peanuts wedi’u rhostio.
- Mefus -rhowch lond llaw o fefus ffres yn yr hylifydd gyda’r tofu.
- Lemwn a sinsir – rhowch ychydig o groen lemwn ac ychydig o bowdr sinsir gyda’r tofu.