Yr ysbrydoliaeth ar gyfer y rysáit yma ydy’r Jamaican Gingercake gan Mcvities. Yn o fy hoff guilty plesures! Ond does dim angen i neb deimlo’n euog am fwyta hon! Llawn ffibr ac yn gymharol isel mewn siwgr – perffaith fel snac fach felys.
Cynhwysyn arall sy’n hollbresennol yn Jamaica ydy tatws melys neu sweet potato/ yams ac mae’n teimlo’n iawn i gyfuno’r cynhwysion yma.
Cynhwysion;
400g o dysen felys wed’i goginio
150g o ddatys medjool heb eu cerrig
2 wy
180g molasses
275g o flawd self rising
Llwy de o bodwr pobi
Llwy fwrdd o sinsir sych
Hanner lwy de o nutmeg
Llwy de o allspice
Dull;
- Cynheswch y ffwrn i 180gradd a leiniwch tun pobi efo papur gwrthsaim (greaseproof).
- Rhowch gnawd y tatws melys, y datys medjool, yr wyau, 150g o’r molasses, y blawd, y powdr pobi a’r sbeis i gyd mewn prosesydd bwyd a chymysgwch tan fod y cyfan yn llyfn.
- Tolltwch y cyfan i mewn i’r tun pobi a choginiwch am 50 – 60 munud neu tan dy fod yn gallu rhoi cyllell i mewn i ganol y gacen a’i dynnu allan yn lan. Tynnwch y gacen allan o’r ffwrn a rhowch i un ochr.
- Defnyddiwch gyllell i brocio nifer o dyllau yn y gacen.
- Rhowch weddill y molasses, pinsiad bach arall o sinsir sych a llwy fwrdd o ddŵr mewn sosban a chynheswch y cyfan ar wres uchel tan fod y cyfan wedi toddi i mewn i’w gilydd.
- Tolltwch y cymysgedd mollases a sinsir dros y gacen er mwyn ei wydro – mae’n bwysig gwneud hyn tra bod y gacen y gynnes.
- Gadewch i oeri cyn ei dorri i mewn i sgwariau bach.
Fe ddyla rhain bara hyd at 5 diwrnod.