Dwi wedi bod yn arbrofi tipyn â’r slow cooker eleni, a dyma’n hoff arbrawf i hyd yma.
Cynhwysion (digon i 6-8 person):
3lb brisged cig eidion
4 lwy de o baprica
2 lwy de o cumin
3 llwy de o bowdr tsili neu 1 tsili mawr coch wedi ei dorri’n fân
2 dun o domatos
1 nionyn
2 bupur coch
Halen a Phupur
2 lwy fwrdd o Olew Olewydd
1 tun o ffa ffrenig kidney beans
Dull:
- Cynheswch yr olew mewn padell, a browniwch y cig eidion (tua 5 munud pob ochr), cyn ei roi yn y slow cooker.
- Torrwch y nionyn a’r pupur coch a’i roi ar ben y cig eidion, ychwanegwch y tomatos, paprixa, cumin, tsili, halen a phupur a chymysgwch.
- Coginiwch ar wres uchel am awr, cyn ei roi ar wres isel am 8 i 10 awr.
- Pan mae yna awr o amser goginio ar ôl ychwanegwch y ffa ffrenig.
- Wedi 8 i 10 awr, torrwch y cig yn ddarnau man, dylai’r cig ddisgyn yn ddarnau ar y pwynt yma.
- Cymysgwch popeth yn dda cyn gweini â reis a guacamole.