Cawl Cyw Iâr a Phys Melyn

Mae’r rysáit yma’n hawdd a chyflym i’w wneud. Mae’r isod yn gwneud digon i 4.

Cynhwysion:

1 Tun 325g o bys melyn

Litr o stoc cyw iâr

2 frest cyw iâr

1 ewin o arlleg wedi ei dorri’n fân

1cm o sinsir wedi ei gratio

1 llwy fwrdd o cornflour

2 wynnwy wŷ

1 llwy fwrdd o damari neu soy sauce

2 sibols spring onion

1 llwy fwrdd o olew olewydd

Dull:

  1. Cynheswch yr olew mewn sosban fawr a ffriwch y garlleg a’r sinsir.
  2. Arllwyswch y stoc i’r sosban a throwch y gwres i fyny tan mae’r stoc yn berwi.
  3. Cymysgwch y cornflour gyda llwy fwrdd o ddŵr cyn ei arllwys i’r badell at y stoc.
  4. Ychwanegwch y cyw iâr.
  5. Trowch y gwres i lawr a berwch y cyw iâr am bum munud. Gwnewch yn siŵr ei fod wedi coginio trwyddo cyn ei dynnu o’r badell a’i dorri’n ddarnau mân.
  6. Rhowch y cyw iâr wedi ei dorri’n ôl yn y sosban, ac ychwanegwch y pys melyn a’u coginio ar wres canolig.
  7. Ychwanegwch y tamari neu soy sauce a chymysgu.
  8. Cnociwch y gwynnwy wŷ mewn jwg cyn eu harllwys i’r sosban yn araf, mae’n bwysig eich bod yn parhau i gymysgu’r cynhwysion â fforc wrth arllwys y gwynnwy wŷ i’r sosban.
  9. Gweinwch y cawl â sibol wedi eu sleisio

Gadael Ymateb

Rhowch eich manylion isod neu cliciwch ar eicon i fewngofnodi:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Newid )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Newid )

Connecting to %s