Salad iach sy’n berffaith ar gyfer bocs bwyd. Mae rhostio’r brocoli yn wych ar gyfer gwneud y llysieuyn ychydig mwy diddorol – grêt mewn cyri!
Os dydych chi ddim yn hoff iawn o facrell, mae’n bosib newid hwn gydag unrhyw brotein arall megis cyw iâr neu tiwna. Neu, mae’n bosib cadw’r pryd yn llysieuol ac yn fegan wrth ychwanegu ychydig o quinoa wedi’i goginio i mewn gyda’r brocoli a’r cêl.
Digon i 2 borswin
Cynhwysion;
Brocoli wedi’i dorri i mewn i ddarnau “bitesize” (cofiwch i defnyddio’r coesyn!)
Cêl – dau lond llaw
2 ffiled o facrell wedi’i fygu
Afocado aeddfed wedi’i deisio
2 llwy fwrdd o hadau pwmpen
Paprica
Olew olewydd
Finegr Seidr
Dull;
- Rhostiwch y brocoli am ryw 30-40 munud ar dymheredd uchel gyda llwy fwrdd o olew, pinsiad go dda o baprica, halen a phupur. unwaith mae’r brocoli wedi’u coginio a chrasu rhowch i un ochr tra eich bod yn paratoi gweddill y salad.
- Mewn bowlen salad mawr ychwanegwch y cêl gyda thua llwy fwrdd o finegr a defnyddiwch eich dwylo i sgrynsio am tua 10 eiliad – bydd hyn yn gwneud y cêl yn haws i’w fwyta yn amrwd.
- Tynnwch y croen i ffwrdd o’r macrell cyn ei sleisio i mewn i stribedi bach ac ychwanegwch hwn gyda’r cêl gyda’r brocoli, hadau pwmpen a’r afocado. Ychwanegwch halen ac ychydig mwy o finegr i flas.