Mae falafels yn flasus ac yn grêt mewn pitta bread, fel rhan o salad neu fel snac. Maen nhw’n hawdd ac yn rhad i’w paratoi ac yn llawn protein.
Digon i 2.
Cynhwysion;
1 tun 400g o chickpeas
1 pupur coch
1 tsili coch
1 ewin garlleg
1 llwy de o cumin
1 llwy fwrdd o flawd spelt
Pinsiad o halen
Dull;
- Cynheswch y popty i 180 gradd. Tra mae’r popty yn cyrraedd ei wres torrwch y pupur coch yn chwarteri a chael gwared â’r hadau. Rowch y pupur coch yn y popty i rostio am 20 munud, neu tan mae’r pupur coch yn feddal.
- Draeniwch y chickpeas a’i sychu â darn o kitchen roll cyn arllwys y chickpeas i’r blender. Ychwanegwch y tsili, garlleg, cumin, blawd, halen a’r pupur coch (gadewch y popty ‘mlaen, bydd angen coginio’r falafels yn y man!) wedi ei rostio i’r blender a chymysgu. Peidiwch â chymysgu’r cynhwysion yn ormodol, does dim angen i’r cymysgedd fod yn hollol llyfn.
- Siapiwch y gymysgedd mewn i beli bychain, tua 6/7 pêl.
- Leiniwch hambwrdd pobi â phapur pobi a rhoi’r peli ar yr hambwrdd.
- Coginiwch y falafels yn y popty ar wres o 180 gradd am 25 munud.
Os nad ydych chi’n hoffi pupur coch neu tsili gallwch hepgor rheini o’r rysait.