Pwy fysa’n meddwl fod hwn yn fwyd diet?! Dwi’n falch iawn o’r pryd yma. Dwi wrth fy modd efo bwyd syml. Mae’r ffrwyth yn gweithio’n wych gyda’r porc ac mae’r tsili a’r mintys ar y corbwmpen yn sgrechian “HAF”! Mae’r pryd hwn yn cynnwys dipyn o brotein, ychydig o fraster iach mewn ffurf olew olewydd, a’r carbohydradau yn dod o’r llysiau gwyrdd.
Mae’r rysáit yma hefyd yn addas ar gyfer BBQ.
Digon i 2.
Cynhwysion;
Ffiled Porc (tua 400g)
1 Corbwmpen wedi sleisio i mewn i ddisgiau trwch 1/2 cm.
2 Eirin Gwlanog (Peach) wedi’i hanneri a’r cerrig wedi’u tynnu allan.
1 Tsili Coch wed’i dorri’n fân
Mintys wedi’i dorri’n fân. (bydd angen tua 2 llwy fwrdd o’r mintys.
2 lwy fwrdd o Olew Olewydd
Lemwn – sudd a croen
Halen a Phupur
Dull;
- Bydd angen gwneud y ffiled porc yn deneuach er mwyn ei goginio’n gyflymach – term Saesneg am hyn yw “butterflying”. Defnyddiwch gyllell finiog i dorri i mewn i ganol y cig ac yna agorwch o allan fel llyfr. Gallwch weld fideo handi ar sut i wneud hyn yma.https://www.youtube.com/watch?v=HP6FFChioPs
- Cynheswch gril i uchel a choginiwch y corbwmpen mewn un haen am ryw 6 munud gan eu troi hanner ffordd trwodd. Rhowch i un ochr.
- Yn y cyfamser, cynheswch badell ffrio i wres canolig uchel. Rhowch lwy fwrdd o’r olew ar y porc gydag ychydig o halen a phupur. Ychwanegwch y porc i mewn i’r badell a choginiwch am tua 4 munud pob ochr (neu tan mae’r cyw iâr wedi ei goginio drwyddo). Peidiwch orgoginio’r cig! Rhowch y porc i un ochr i ymlacio.
- Ychwanegwch yr eirin gwlanog i mewn i’r badell i goginio am tua 2 funud bob ochr.
- Sleisiwch y porc a’r ffrwyth.
- Gweinwch ar un plât mawr i rannu. Ychwanegwch y tsili a’r mintys a gweill yr olew olewydd. Sbrinclwch y croen lemon a gwagwch y sudd dros bopeth gydag ychydig o halen a phupur a mwynhewch!