Dwi’n mwynhau’r crymbl yma i frecwast efo ychydig o iogwrt. Os ydych chi’n prynu iogwrt, prynwch un full fat. Mae bwydydd low fat fel arfer yn cynnwys mwy o siwgr, sydd ddim yn dda! Dwi fel arfer yn coginio’r crymbl ar brynhawn dydd Sul, ac yn ei gadw yn yr oergell am ryw 3 neu 4 diwrnod ar gyfer brecwast.
Cynhwysion;
120g o geirch
120g o gnau wedi torri’n fân (unrhyw gnau yn iawn – dwi wedi defnyddio peanuts)
50g o hadau (unrhyw hadau yn iawn – dwi wedi defnyddio hadau pwmpen a hadau blodyn yr haul)
4 llwy fwrdd o flawd almwnd
80 ml o maple syrup a 2 lwy fwrdd o maple syrup ar gyfer y ffrwythau
3 llwy ffwrdd o olew cneuen goco
2 lwy ffwrdd o ddŵr
4 afal
150g o fafon
Dull;
- Pliciwch a thorrwch yr afalau (peidiwch â defnyddio canol yr afal).
- Rhowch y ffrwytha yn y sosban efo dwy lwy fwrdd o maple syrup a dwy lwy fwrdd o ddŵr. Rhowch y caead ar y sosban a choginio’r ffrwythau am rhyw chwarter awr neu tan maen nhw’n feddal. Yna rhowch nhw mewn powlen all fynd i’r popty.
- Toddwch yr olew cneuan goco mewn sosban a’i gymysgu gyda’r 100ml o maple syrup.
- Ychwanegwch y ceirch, cnau, hadau a’r blawd almwnd a’i cymysgu. Rhowch y cymysgedd ar ben y ffrwythau.
- Rhowch y ffrwytha mewn dysgl ac yna rhoi’r cymysgedd cnau a cheirch ar ei ben a’u roi yn y popty ar wres o 160 am hanner awr.