Swni’n awgrymu i bawb drio “buckwheat” – gwenith yr hydd ydy ei enw Gymraeg.
Dydw i ddim yn dilyn deiet gluten free. Dwi’n defnyddio blawd buckwheat yn y ryseit yma achos bod o’n rhoi blas dwfn a chneuog i’r cyw iâr ond mae o digwydd bod yn flawd heb glwten.
Cynhwysion (digon i fwydo 4)
1 Cyw Iâr cyfan wedi’i dorri i mewn i ddarnau.
Neu….
4 x Thigh 4 x Drumstick
Marinade
1 x Twb Buttermilk
Llwy de o Baprika
Llwy de o Chilli Powder
Llwy de o Oregano Sych
Zest a Sudd 1 Lemon
Halen a Phupur
“Drej”
5 llwy fwrdd o flawd buckwheat
Llwy de o Baprika
½ llwy de o Chilli Powder
Llwy de o Oregano Sych
Llwy de o Sage Sych
Halen a Phupur
Llwy fwrdd o Olew Coco i goginio.
Dull:
- Cymysga cynhwysion y marinad gyda’u gilydd mewn bowlen mawr cyn ychwanegu’r cyw iâr. Gorchuddia’r bowlen gyda cling ffilm cyn ei roi yn y ffrij am 4 i 12 awr.
- Cynhesu’r ffwrn i gas mark 6 (tua 180 – 200 gradd c)
- Cymysga cynhwysion y drej mewn bowlen mawr arall.
- Tynna’r cyw iâr allan o’r marinad gan ysgwyd y gormodedd o’r hylif i ffwrdd. Ychwanega’r darnau i mewn i’r drej i’w gorchuddio.
- Cynhesa padell ffrio trwm ar yr hob ar wres canolig-uchel cyn ychwanegu’r olew coco.
- Ffria’r cyw ia’r yn y padell am 7-10 munud ar bob ochr i ddatblygu croen chrisp. Peidiwch a brysio’r cam yma.
- Trosglwydda’r cyw iâr i tray wedi’i leinio â phapur grisprwff a’i rhoi y y ffwrn i bobi am rhyw 30-40 munud i orffen coginio.
- Tyna’r BFC allan a’i rhoi ar bapur cegin i gael gwared o unrhyw saim cyn eu gweini.
Mae hwn yn neis gyda “corn on the cob”, picls a cholslo cêl.
Gwell na unrhyw fwced gan Col Sanders!