Selsig, Stiw Ffa Gwyn a Sbigoglys

Swper syml sy’n barod mewn tua 20 munud. Mae’n well defnyddio selsig sydd efo dipyn o sbeis! Bysa rhywbeth fel cumberland yn ddewis da. I fwydo 2. Cynhwysion; 4 selsig o ansawdd da. 4 tomato 1 tin 400g o ffa cannellini, wedi’i ddraenio 1 nionyn, wedi’i dorri’n ddarnau bach 1 ewyn garlleg, wedi’u dorri’n fân…

Selsig Cartref

Weithiau mae tarddiad rysáit newydd yn gallu dod o lefydd annisgwyl. Yr ysbrydoliaeth i hwn ydy’r math o selsig rydych yn cael mewn “Sausage McMuffin” o McDonalds i frecwast. Dydw i ddim yn mynychu McDonalds yn aml ond mae gen i atgofion go felys o’r fwydlen brecwast! Mae hwn hefyd yn wych i rheina ohonoch…