Dwi’n cofio cael rhywbeth tebyg i’r salad yma yn Sydney rhai blynyddoedd yn ôl. Roedd y pryd yna llawer mwy ffansi na hwn ond mae’r blasau’n debyg iawn. Gallwch chi weini hen fel cwrs cyntaf neu fel prif gwrs. Neu gallwch chi weini hwn fel pryd ochr mewn barbeciw. Perffaith gyda gwydriad o win gwyn…