Dwi wrth fy modd yn rhostio llysiau. Mae o’n hawdd neud ac yn ffordd dda i gael fwy o lysiau i mewn i’ch diet. Mae’r pryd yma’n defnyddio’r tric o rewi feta cyn gratio. Mae rhewi’r feta yn galluogi i chi greu rhyw fath o bowdr sy’n gorchuddio’r bwyd yn dda gan adael blas cryf…
Remoulade Seleriac efo ham Parma
Ffordd ffres i ddefnyddio seleriac. Mae o’n mynd yn wych gydag unrhyw gig parod neu eog / macrell wedi’i fygu Dwi’n defnyddio iogwrt naturiol yn hytrach na mayonnaise nid yn unig er mwyn torri lawr ar y calorïau ond i wneud y remoulade flasu’n ysgafnach. Cynhwysion; Seleriac Dwy lwy fwrdd Iogwrt Naturiol Dwy lwy de…
Crempogau Banana Bach
Rhywbeth gwahanol i ddiwrnod crempog ond mae hwn yn neis unrhyw adeg o’r flwyddyn – enwedig i frecwast neu “brunch”. Mae’r banana sych wedi’u malu yn ychwanegu crunch da fysa hefyd yn dda iawn ar ben uwd. Gefais i rywbeth tebyg i hwn tra ar wyliau yn Awstralia – y gwahaniaeth fwyaf oedd medru bwyta’r…
Ragu Lentils Gwyrdd
Ar hyn o bryd dwi’n trio peidio bwyta gymaint o gig, felly dyma greu rysáit llysieuol blasus yr wythnos yma. Nes i ddefnyddio lentils gwyrdd gan fy mod i’n teimlo eu bod yn mynd yn llai stwnshlyd na rhai coch! I fwydo 6: Cynhwysion: 1 Foronen 1 Pupur Coch 1 Nionyn 1 Coesyn Seleri 1…
Byrgyr Porc, Betys ac Afal
Mae betys yn wych! Llawn ffibr a gwrthocsidyddion, dwi’n credu dylwn ni fwyta fwy ohonyn nhw. Mae’r paciau o fetys sydd wedi’i choginio’n barod yn rhad ac mor gyfleus. Dwi’n defnyddio caws bwthyn yn y rysáit yma gan ei fod yn isel mewn calorïau, ond fysa caws gafr yn mynd yn wych gyda blas y…
Salad Nwdls
Dyma rysait (ddim yn siwr os alla i ei alw’n rysait am ei fod mor syml!) am salad nwdls syml sydd ddim yn cymryd llawer i’r baratoi a ddim yn golygu llawer o goginio! Mae’n cadw yn yr oergell am ychydig ddiwrnodau, ac yn gret ar gyfer bocs bwyd. Digon i 4 Cynhwysion: 2 stecen (nes i…
Cawl Artisiog a Chnau Castan
Cawl moethus ond hawdd sy’n berffaith i’r tywydd oer. Mae’r cyfuniad o artisiogau Jerwsalem a’r cnau castan yn creu cawl llyfn heb ychwanegu hufen – mewn gwirionedd, mae’r cawl yma yn hollol fegan! Mae’n werth ychwanegu’r “salsa” canu castan a chennin syfi er mwyn ychwanegu ychydig o wead i mewn i’r pryd – rhywbeth sy’n…
Gnocchi efo “Boch Moch”
Dwi wrth fy modd efo bochau porc. Mae’n ddarn o’r anifail sydd ddim yn cael ei ddefnyddio digon aml ond hwn ydy un o’r darnau fwyaf blasus! Dwi’n coginio’r bochau mewn caserol traddodiadol ond gallwch gael canlyniad yr un mor dda mewn slow cooker. I fwydo 4 i 6 person. Cynhwysion; Chwech boch porc Dwy…
Cawl Tomato, Pupur Coch a Tsili wedi rhostio
Mae’r rysait yma’n gwneud digon i ddau. Cynhwysion: 1 Pupur coch 1 Ewin o arlleg 1 Nionyn 1 Llwy de o deim 1 Llwy fwrdd o olew olewydd 5 Tomato 1 Tsili coch 100ml o Stoc Llysiau Halen a Phupur Dull: Cynheswch y popty i 160 gradd. Torrwch y pupur coch yn chwarteri, a chael…
Melanzane alla Parmigiana
Melanzane alla Parmigiana. “Aubergine Parmesan” yn Saesneg, neu “Eggplant Parm” fel bysech chi’n clywed yn cael ei ddeud gan deuluoedd Eidal-Americanaidd yr Unol Daleithiau. Fe gefais hwn am y tro cyntaf yn Osteria yng Nghaernarfon ac mi oedd o’n wych. Bwytwch ar ben ei hun efo salad gwyrdd ar yr ochr. I fwydo 2; Un…
Smwddi Pîn Afal, Sbigoglys a Ciwcymbr
Eisiau mwy o faeth yn eich deiet? Pam ddim dechrau’r diwrnod efo’r smwddi syml yma? Cynhwysion 100g o Bîn Afal 25g o Sbigoglys 50g o Gwicymbr 50ml o Ddŵr Dull Rhowch y cyfan yn y peiriant smwddi a chymysgu. Syml!
Salad Pwmpen, Cig Oen Crisp a Persli
Salad cynnes sydd, yn fy marn i, yn dod a’r gorau allan o bob cynhwysyn. Mae sumac yn sbeis o’r dwyrain canol sydd efo blas sur. Mae’n mynd yn dda efo cyw iâr neu mewn tabbouleh. Mae o werth ei drio! Mae’r picl nionyn cyflym yn cadw yn y ffrij am tua 4 diwrnod. I…