Mae’r saws cyri yma yn debyg i’r saws ti’n cael mewn cyri katsu Siapaneaidd. Mae’r gair katsu yn cyfeirio at frest cyw iâr wedi’i ffrio mewn briwsion panko. Mae’r peli twrci yma hefyd yn wych mewn bocs bwyd efo coleslaw ffres. I fwydo 4. Cynhwysion: I’r peli cig – Mins twrci, 500g Briwsion…
Ratatouille efo couscous mawr
Mae hwn yn bryd yn ei hun ac mae’r cyfan yn digwydd mewn un pot! Mae ratatouille yn hyfryd yn ei hun ond dwi wedi ychwanegu ychydig o couscous i wneud y pryd yn un mwy swmpus. Gallwch brynu couscous mawr (giant couscous / Israeli couscous) mewn archfarchnadoedd mawr. Gallwch ddefnyddio orzo neu hyd yn…
Fusilli efo Saws Brocoli
Mae hwn yn bryd hyfryd sy’n defnyddio’r brocoli cyfan. Mae’r saws yn gweithio gydag amryw o lysiau gwyrdd fel cêl a bresych. I fwydo 2. Cynhwysion; Tua 160g o fusili 50g cnau Ffrengig (walnuts) Un brocoli cyfan Ewyn o arlleg wedi’u blicio Olew olewydd Lemwn Pinsiad o tsili sych Parmesan (os oes eisiau) Dull; Torrwch…
Cawl Moron a Sinsir
Mae’r tywydd yn oeri, felly mae hi’n amser am rysait i’ch cynhesu chi! Dyma gawl syml, ac yn hytrach nag ychwanegu croutons beth am ychwanegu ffacbys wedi rhostio? Mae’r rysait yma yn gwneud digon ar gyfer pum powlen o gawl. Cynhwysion: Ar gyfer y cawl: 1kg o foron 3 ewyn garlleg 1 nionyn 1 darn…
Marinad Cajun
Dyma farinad Cajun syml, does dim angen prynu’r marinad maen nhw’n werthu yn y siopau pan y gallwch ei wneud eich hunain efo sbeisys sydd yn y cwpwrdd yn barod! Mae’r rysait yma’n ddigon ar gyfer dau ddarn o gig neu bysgodyn. Cynhwysion: 1 llwy fwrdd o baprica 1/2 llwy de o bowdr garlleg 1…
Cig Oen, Pupur Coch, Finegr Sieri
Pryd cyflym i ddau. Mae’n anodd curo cig oen fel hyn – dwi wrth fyd modd yn cnoi’r cig oddi wrth yr asgwrn fel dyn ogof! Mae’r finegr sieri yn torri drwy fraster y cig oen. Defnyddiwch finegr gwin coch neu ychydig o balsamic os does gennych chi ddim finegr sieri. I fwydo 2. Cynhwysion:…
Nwdls Sbeisi Koreaidd
Mae gochujang yn bast sbeisi wedi’i eplesu (fermented) o Korea sy’n cynnwys tsili a reis gludiog ymysg pethau arall. Mae’r past yn boeth ond efo ychydig o felysrwydd ac mae’n rhoi nodyn sawrus i’ch bwyd mewn ffordd debyg i bast miso. Gallwch gael hyd i gochujang mewn siopau Asiaidd neu mewn rhai archfarchnadoedd mawr. Os…
Salad Orzo
Math o basta yw orzo; enw arall ar ei gyfer yw pasta reis. Mae hwn yn mynd yn wych gydag unrhyw bysgodyn neu gyw iâr wedi’i grilio fel rhan o bryd barbeciw. Mae o fyny i chi faint o’r cynhwysion yma hoffwch chi yn eich salad – ychwanegwch mwy o domatos neu mwy o barmesan…
Asbaragws efo ham serrano
Pryd tapas sy’n ffordd neis efo asbaragws sydd yn eu tymor rŵan. Gweinwch efo wy wedi’i botsio i wneud pryd mwy swmpus. Mae’r saws tomato a phupur yma’n wych gyda phasta hefyd. I fwydo 2. Cynhwysion: Tua 250g o asbaragws Paced o ham serrano (tua 80g) 250g tomatos ceirios 1 pupur coch neu melyn Teim ffres…
Tacos Tyten Felys a Cennin
Y bwyty Guerilla Tacos yn LA ddoth fyny efo’r tacos syml ond sylweddol yma. Dwi wedi symleiddio’r rysáit rhywfaint ac wedi torri lawr ar y caws a’r menyn sydd yn y gwreiddiol. Tacos llysieuol gwych. Peidiwch ychwanegu feta i gadw’r rysáit yn fegan. I fwydo 4. Cynhwysion: Tysen Felys, 1kg wedi’u golchi ond heb eu plicio Cwmin, llwy…
Halloumi, Tomato a Basil
Cinio ysgafn a hawdd efo dim ond ychydig o gynhwysion. Triwch gael hyd i domatos da sy’n felys a llawn blas. Mae’n bwysig cofio fod halloumi yn cynnwys lot o fraster a halen felly byddwch yn ofalus os ydych yn cadw llygad ar eich calorïau. I fwydo 1; lluoswch y rysáit i fwydo mwy. Cynhwysion:…
Tatws Newydd efo Macrell a Dil
Rydyn ni ar ddechrau’r tymor tatws jersey royals felly cymrwch fantais o’u hargaeledd yn y siopau i greu’r rysáit Sgandinafaidd hon! I fwydo 2-4. Cynhwysion; 1kg o datws jersey royal (neu unrhyw datws newydd arall) Tua 300g o facrell wedi’i fygu Llond llaw o ruddygl (radish) Llond llaw o ddil ffres Tair llwy fwrdd o…