Cawl Artisiog a Chnau Castan

Cawl moethus ond hawdd sy’n berffaith i’r tywydd oer. Mae’r cyfuniad o artisiogau Jerwsalem a’r cnau castan yn creu cawl llyfn heb ychwanegu hufen – mewn gwirionedd, mae’r cawl yma yn hollol fegan! Mae’n werth ychwanegu’r “salsa” canu castan a chennin syfi er mwyn ychwanegu ychydig o wead i mewn i’r pryd – rhywbeth sy’n…

Cawl Tomato, Pupur Coch a Tsili wedi rhostio

Mae’r rysait yma’n gwneud digon i ddau. Cynhwysion: 1 Pupur coch 1 Ewin o arlleg 1 Nionyn 1 Llwy de o deim 1 Llwy fwrdd o olew olewydd 5 Tomato 1 Tsili coch 100ml o Stoc Llysiau Halen a Phupur Dull: Cynheswch y popty i 160 gradd. Torrwch y pupur coch yn chwarteri, a chael…

Melanzane alla Parmigiana

Melanzane alla Parmigiana. “Aubergine Parmesan” yn Saesneg, neu “Eggplant Parm” fel bysech chi’n clywed yn cael ei ddeud gan deuluoedd Eidal-Americanaidd yr Unol Daleithiau. Fe gefais hwn am y tro cyntaf yn Osteria yng Nghaernarfon ac mi oedd o’n wych. Bwytwch ar ben ei hun efo salad gwyrdd ar yr ochr. I fwydo 2; Un…

Smwddi Pîn Afal, Sbigoglys a Ciwcymbr

Eisiau mwy o faeth yn eich deiet? Pam ddim dechrau’r diwrnod efo’r smwddi syml yma? Cynhwysion 100g o Bîn Afal 25g o Sbigoglys 50g o Gwicymbr 50ml o Ddŵr Dull Rhowch y cyfan yn y peiriant smwddi a chymysgu. Syml!

Cacennau Pys a Parmesan

Byddai’r cacennau pys a parmesan yma’n gret ar gyfer brecwast neu brunch!   Cynhwysion: 100g o bys wedi rhewi 25g o gaws parmesan wedi ei gratio ½ shibwn spring onion wedi ei dorri’n fân 1 ŵy bach wedi’i gnocio 25g o flawd Pinsiad o halen Llwy fwrdd o olew olewydd   Dull: Rhowch y pys…

Tatws Newydd, Pys a Berwr

Rhywbeth neis i drio tra bod tatws newydd a phys ffres yn eu tymor. Gallwch ddefnyddio pys wedi dadrewi yn y rysáit hon – fyswn i’n berwi nhw am funud gyda’r tatws. I fwydo 2. Cynhwysion; Tua 750g o datws newydd Tua 250g o bys ffres wedi’i podio 2 bot o ferwr salad 3 shibwn…

Tacos Wy a “Pico de Gallo”

Mae geni obsesiwn bach efo tacos! Dwi wrth fyd modd gyda nhw a dwi’n mwynhau’r tacos wy yma i frecwast neu fel brunch. Mae’r pico de gallo yn mynd efo pob dim felly newidiwch y protein i mewn i borc, cyw iâr, pysgodyn neu hyd yn oed ffa du. Mae’r enw yn golygu pig ceiliog…

Pasta, Saws Cashew a Brocoli

Dwi wrth fy modd efo’r rysáit vegan yma. Mae’n syml iawn i’w baratoi ac yn ofnadwy o flasus.  Mae’r rysáit yn gweithio orau os ydych chi’n socian y cnau dros nos. Mae’r rysáit yma ar gyfer dau berson. Cynhwysion; 80g o Basta Cyflawn 50g o gnau Cashew 200ml o ddŵr 100g o frocoli 1 sialotsyn…

“Jersey Royals” + dresin mintys

Rydym yng nghanol tymor y “Jersey Royals”. Mae blas y tatws newydd heb ei hail a dwi’n hoff iawn o baratoi nhw’n syml. Mae’r dresin mintys llawn bywyd ac yn mynd yn wych gydag unrhyw lysiau gwyrdd fel asbaragws, pys, ffa neu hyd oed brocoli. Cynhwysion; 500g  “Jersey Royals” Llond llaw o fintys ffres (tua…

Pesto Gwyrdd

Mae pesto gwyrdd mor hawdd a rhad i’w baratoi does dim angen i chi brynu jar o’r siop. Felly dyma rannu rysáit pesto efo chi. Cynhwysion: 30g o Fasil ffres 50g o gnau Pine Nuts ½ ewin mawr o arlleg Pinsiad o halen 2 lwy fwrdd o olew olewydd Sudd ½ lemwn 1 llwy fwrdd…

Hwmws Garlleg Gwyllt

Mae’r tymor ar gyfer garlleg gwyllt yn para o fis Mawrth tan tua Mai. Mae’r blas garlleg yn feddal –  yn wahanol iawn i’r blas cryf sydd mewn ewin o arlleg arferol. Dwi wrth fy modd mynd am dro amser yma o’r flwyddyn ac arogli’r garlleg yn yr awyr – mae’n neud fi isio coginio!…

Tsili Lentils Coch

Mae’r tywydd yn oeri’r wythnos yma, felly dyma rysáit i gynhesu eich boliau!! Bwydo 6 Cynhwysion 1 nionyn 1 pupur coch 1 pupur gwyrdd 4 ewin garlleg 2 foronen 2 tsili coch 1 llwy fwrdd o baprica 1 llwy fwrdd o goriander 1 llwy fwrdd o gwmin 1 llwy fwrdd o puree tomato 300g o…