Mae risotto yn rysáit defnyddiol iawn i gadw fyny eich llewys – efallai neith o gymryd ychydig o ymarfer ond mae’r canlyniad bob amser werth yr ymdrech! Mae’n hawdd addasu’r rysáit ar gyfer y tymhorau. Pys ac asbaragws yn y Gwanwyn neu domatos melys yn yr haf.
Dwi’n defnyddio pwmpen ond mae butternut squash yn opsiwn da.
Un peth dwi’n teimlo sydd o’i le efo risotto ydy bod y gwead meddal yn gallu bod yn ddiflas ar ôl ychydig. Mae’r briwsion bara yn ychwanegu ychydig o crunch sy’n gwneud y cyfan llawer mwy pleserus i fwyta yn fy marn i.
I fwydo 4.
Cynhwysion;
Un pwmpen fach, wedi’i blicio a’i dorri’n ddarnau, dim hadau
Llwy fwrdd o olew olewydd
Un nionyn, wedi’i dorri’n ddarnau bach
300g o reis risotto
100ml o win gwyn (opsiynnol)
Un litr o stoc (llysiau neu cyw iâr)
60g parmesan, wedi’i gratio
Menyn
Cennin syfi (chives), wedii dorri’n fân
Finegr (gwin gwyn neud seidr)
Briwsion bara
Rhosmari (sych neu ffres), wedi’i dorri’n fân
Dull;
- Cynheswch ffwrn i 180gradd. Rhostiwch y darnau pwmpen gydag ychydig o olew am tua 30 munud – neu tan mae cnawd y bwmpen yn feddal. Tynnwch allan o’r ffwrn a rhowch i un ochr.
- Cynheswch badell ffrio cyn ychwanegu’r briwsion bara, y rhosmari ac ychydig o halen a phupur. Tostiwch y cyfan tan mae’r briwsion yn edrych yn euraidd. Trosglwyddwch hwn i fowlen a rhowch i un ochr.
- Cynheswch y stoc unai mewn jwg mewn microdon neu mewn sosban ar yr hob.
- Mewn sosban arall, cynheswch yr olew olewydd a llwy de o fenyn ar wres canolig. Coginiwch yn nionyn heb liw am tua 10 munud. Ychwanegwch y reis a choginiwch am 2 funud arall. Bydd y reis yn edrych ychydig yn dryloyw. Ychwanegwch y gwin gwyn (os ydych yn defnyddio) a choginiwch am un funud.
- Trowch y gwres lawr a dechreuwch ychwanegu’r stoc fesul tipyn gan droi’r risotto yn aml i ryddhau’r startsh sydd yn y reis. Y startsh sy’n gwneud y risotto yn llyfn ac yn hufennog. Unwaith mae’r reis yn amsugno’r stoc, ychwanegwch ychydig mwy. Parhewch i wneud hyn tan fod y reis wedi’u coginio – rhyw 15 munud. Os ydy’r reis ychydig yn galed, ychwanegwch mwy o hylif a choginiwch am ychydig hirach. Ychwanegwch dwr berw o’r tegell os ydy’r stoc wedi rhedeg allan.
- Diffoddwch y gwres ac ychwanegwch y cnawd pwmpen, y menyn, y parmesan a’r cennin syfi i mewn i’r risotto Cymysgwch y cyfan yn dda a rhowch gaead ar y sosban. gadewch lonydd i’r risotto am ddwy funud er mwyn i’r risotto ymlacio. Ychwanegwch halen i flas a digonedd o bupur du. Dwi hefyd yn ychwanegu ychydig o finegr i dorri drwy gyfoeth y menyn a’r caws.
- Gweinwch yn syth gyda’r briwsion rhosmari.