Swper syml sy’n barod mewn tua 20 munud.
Mae’n well defnyddio selsig sydd efo dipyn o sbeis! Bysa rhywbeth fel cumberland yn ddewis da.
I fwydo 2.
Cynhwysion;
4 selsig o ansawdd da.
4 tomato
1 tin 400g o ffa cannellini, wedi’i ddraenio
1 nionyn, wedi’i dorri’n ddarnau bach
1 ewyn garlleg, wedi’u dorri’n fân
100g sbigoglys (spinach)
Llwy fwrdd o olew olewydd
Cennin syfi (chives) / Persli ffres, wedii dorri’n fân
Sudd lemwn
Dull;
- Cynheswch y gril i wres canolig uchel. Rhowch y selsig ar hambwrdd bobi. Hanerwch y tomatos a rhowch nhw ar yr hambwrdd pobi hefyd gydag ychydig o halen a phupur. Rhowch i goginio o dan y gril am ryw 20 munud neu tan mae’r selsig yn barod. Cofiwch i droi’r selsig bob hyn a hyn. Tra bod y selsig yn coginio, paratowch y stiw ffa.
- Cynheswch yr olew olewydd mewn sosban ac ychwanegwch y nionyn a’r garlleg i feddalu ychydig am ryw dair munud. Ychwanegwch y ffa cannellini a sblash bach bach o ddŵr a chymysgwch y cyfan yn ofalus i osgoi chwalu’r ffa. Ychwanegwch y sbigoglys a’r sudd lemwn cyn diffodd y gwres. Rhowch lid ar y sosban i adael i’r gwres gweddilliol wiltio’r sbigoglys. Ychwanegwch y perlysiau ffres halen a phupur i flas a rhowch i un ochr tan fod y selsig a’r tomatos yn barod.