Dwi’n hoff iawn o ddefnyddio grawn gwahanol wrth goginio ac mae haidd gwyn (neu pearl barley) yn un o fy ffefrynnau. Prynwch y fersiwn “quick cook” sy’n barod mewn 10-15 munud.
Mae’r salad yma’n ysgafn ond yn swmpus; union be dwi’n hoffi bwyta ar fy awr ginio.
Os ydych am baratoi hwn i gael i ginio’r diwrnod wedyn, peidiwch ychwanegu’r afocado tan eich bod yn barod i fwyta.
Digon i 4.
Cynhwysion:
250g haidd gwyn (pearl barley)
Brocoli, dau goesyn
200g tomatos bach, wedi’i haneru
Afocado, 1-2 wedi’i deiso
Hanner ciwcymbr, wedi’i deisio
Dwy shibwns (spring onions), wedi’i sleisio’n fân
30g persli ffres, wedi’i dorri’n fras
Cnau ffrengig (walnuts), llond llaw
Olew rapeseed, llwy fwrdd
Finegr gwin gwyn / sudd lemwn, llwy fwrdd
Dull:
- Coginiwch yr haidd yn ôl cyfarwyddiadau’r paced. Draeniwch a chymysgwch gyda’r olew, finegr, halen a phupur. Rhowch i un ochr i oeri ychydig.
- Torrwch y brocoli i mewn i ddarnau a rhostiwch, heb olew, am 25 munud mwn ffwrn 200°c. Unwaith mae’r brocoli wedi’i crasu ychydig ychwangewch nhw i mewn i’r
- Ychwanegwch weddill y cynhwysion i mewn i’r haidd a chymysgwch yn ysgafn osgoi malu’r afocado yn ormodol. Blaswch i weld os oes angen mwy o halen neu asid.
Mwynhewch!