Mae’r saws cyri yma yn debyg i’r saws ti’n cael mewn cyri katsu Siapaneaidd. Mae’r gair katsu yn cyfeirio at frest cyw iâr wedi’i ffrio mewn briwsion panko.
Mae’r peli twrci yma hefyd yn wych mewn bocs bwyd efo coleslaw ffres.
I fwydo 4.
Cynhwysion:
I’r peli cig –
Mins twrci, 500g
Briwsion bara, 50g
Sinisir, llwy fwrdd wed’i gratio
Pupur gwyn, pinisad
Miso, llwy de
Saws soy, llwy fwrdd
Mêl, tua lwy fwrdd
Hadau sesami, llwy de
Saws cyri –
Winiwn, wed’i dorri
Moron, wedi’i dorri
Afal, wedi’i dorri
Garlleg, llwy fwrdd wedi’i gratio
Sinisr, llwy fwrdd wedi’i gratio
Powdr cyri (mild), llwy fwdd
Pupur gwyn, pinsiad
Olew rapeseed, llwy fwrdd
Saws soy, i flas
Blawd plaen, llwy fwrdd
Llaeth, 150ml
Finegr reis / gwin gwyn, llwy de neu i flas
2 spring onion, wedi’i slesio’n fân
Dull;
- Cynheswch ffwrn i 200°c.
- Rhowch y mins twrci mewn powlen cymysgu. Ychwanegwch y briwsion bara, y sinsir, miso, saws soy, pinsiad o halen a’r pupur gwyn a chymysgwch yn dda. Sipiwch i mewn i beli tua maint pêl ping pong.
- Rowch y peli twrci mewn dysgl rhostio a choginiwch yn y ffwrn am 20 munud gan gofio i droi nhw bob hyn a hyn. Ar ôl yr 20 munud, tynnwch y peli allan ac ychwanegwch y mêl a’r hadau sesami. Rholiwch y peli yn y mêl a’r sesami er mwyn gludo’r hadau cyn eu rhoi yn ôl yn y ffwrn am ddwy funud arall.
- I baratoi’r saws cyri – coginiwch y nionyn, moron, afal, y garlleg a’r sinsir mewn llwy fwrdd o’r olew ar wres canolig tan yn feddal – tua 10 munud. Ychwanegwch y powdr cyri a choginiwch am funud i gael y blasau allan. Ychwanegwch y blawd a choginiwch am funud arall cyn ychwanegu’r llaeth yn raddol gan gymysgu. Ychwanegwch tua 500ml o ddŵr berwedig a choginiwch am 10 munud. Blaswch ac ychwanegwch y saws soy ac ychydig o finegr i flas. Defnyddiwch blendiwr llaw (stick/hand blender) i gael y saws mor llyfn â phosib.
- Gweinwch y peli twrci gyda reis plaen a’r saws cyri ar yr ochr.