Mae hwn yn bryd yn ei hun ac mae’r cyfan yn digwydd mewn un pot! Mae ratatouille yn hyfryd yn ei hun ond dwi wedi ychwanegu ychydig o couscous i wneud y pryd yn un mwy swmpus.
Gallwch brynu couscous mawr (giant couscous / Israeli couscous) mewn archfarchnadoedd mawr. Gallwch ddefnyddio orzo neu hyd yn oed reis fel eilydd. Gallwch hefyd paratoi couscous arferol a’i weini ar yr ochr!
I fwydo 2.
Cynhwysion:
Gwenynen (aubergine), wedi’i dorri’n ddarnau bach
Corbwmpen, wedi’i dorri’n ddarnau
1 pupur coch, wedi’i dorri’n ddarnau
Un nionyn, wedi’i dorri’n ddarnau
Dwy ewin o arlleg, wed’i sleisio
Tun o domatos
Olew olewydd
150g couscous mawr
Persli neu basil ffres
Dull:
- Rhowch lwy fwrdd o olew olewydd mewn sosban a choginiwch y wenynen, y nionyn, y pupur coch, y corbwmpen a’r garlleg ar wres canolig tan yn feddal; rhyw 7-10 munud. Blaswch y wenynen i weld os yw’n feddal.
- Ychwanegwch y tomatos a tua 200ml o ddŵr. Dewch a phopeth i ferwi ac ychwanegwch ychydig o halen a phupur.
- Ychwanegwch y couscous a choginiwch am ryw 7-10 munud gan ychwanegu mwy o ddŵr os ydy’r cymysgedd yn edrych braidd yn sych. Topiwch gyda phersli neu fasil a gweinwch.